Text Size

Call: 01492 870 249
Text 60300,
start your message
with the word Tudno

sp

TudnoFM Blogs

A short description about your blog

Albwm yr wythnos Croeso Nol gan Alistair James

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Wel dyma fi eto yn blogio ein albwm Gymraeg yr wythnos sef Croeso Nol gan Alistair James. Mae pawb ohonach sy'n gwrando ar y darlledu cymraeg yn nabod Alistair am ei gyflwno yma ar Tudno FM ond wrthgwrs ei waith bob dydd ydi fel canwr dawnys iawn, a dyna pam y dewisais ei albwm o yr wythnos yma.
Dyma mae yn ddweud amdano ar ei wefan MySpace;
http://profile.myspace.com/index.cfm?fuseaction=user.viewprofile&friendid=168220655
Neu
http://profile.myspace.com/index.cfm?fuseaction=user.viewprofile&friendID=84350346

Mae arddull Alistair wedi cael ei ddisgrifio fel ‘Canu Gwlad Newydd’, ond mae’r casgliad o ganeuon sydd ar yr albwm yn amrywiol eu naws a’u cynnwys – o faledi pwerus i felodïau hudolus ac alawon cyflym sy’n gwneud i’r traed symud i’r bît! Gyda cherddorion o’r radd flaenaf fel band cefndir, caneuon sy’n cyffwrdd yr enaid, geiriau a barddoniaeth cyffrous a llais Alistair yn symud yn naturiol o un arddull i’r llall, dylai’r CD hwn blesio rhychwant eang o wrandawyr.

Ganwyd Alistair ym Mangor, ac mae wedi byw yn Llanfairfechan erioed gan fynychu Ysgol Aberconwy ble y daeth yn gitarydd a phianydd amlwg. Mynychodd Goleg Llandrillo gan ennill tystysgrif HND yn y Cyfryngau Creadigol a Rhyngweithiol a ddyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg.

Er mai 24 yn unig yw Alistair, mae’r diwydiant cerddoriaeth yn gyfarwydd iawn iddo, ac mae wedi bod yn perfformio ei sioe unigol ers dros wyth mlynedd mewn tafarndai, gwestai a chlybiau o gwmpas Gogledd Cymru. Mae ganddo’r gallu a’r weledigaeth i fod yn un o brif gantorion canu gwlad y dyfodol.

Dyma ddarn o adroddiad gan y Weekly news am yr albwm.

Earlier this year Alistair’s profile received a boost when he was picked to take part in the S4C show Cân I Gymru (Song For Wales) with his self penned song Crwysau Gwyn (White Crosses) which tells the tale of a Welsh soldier, and based on the Trawsfynydd poet Hedd Wyn who died during the First World War.

Alistair, 24, originally from Llanfairfechan, has teamed up with the band and production team behind his 2006 debut release of Neith Digon Ddim Digoni to write and record a collection of new tracks which feature on Croeso Nôl (Welcome Back).

“I am excited about the release of this album,” he said. “It has been a lot of hard work but I have been lucky enough to work with some of Wales’s top musicians and writers on this project, I hope this is evident in the final result.”

The album was recorded at Rockcliffe Studios in Llandudno and produced by Alistair’s long term co-writer Simon Gardner.

Since the release of Neith Digon Ddim Digoni, Alistair has been very busy performing across Wales, whilst also finding time to contribute to many successful Welsh albums including Iona ac Andy, Geraint Roberts and top selling DJ SG album Clwb Cymru, on which he sang lead vocals.

As well as Crwysau Gwyn, another one of the tracks on the new album is a duet recorded with Anglesey singer Laura Sutton who recently achieved national acclaim with her performance as Celine Dion on ITV’s Stars in Their Eyes, reaching the live final.

“The album is a mixture of ballads and upbeat pop songs. I have really enjoyed writing this album and many of the songs and lyrics are very personal to me. Hopefully, people will not only enjoy the melodies and musicianship but also relate to the lyrics and experiences in the songs,” added Alistair.

Felly cofiwch wrando ar Tudno FM drwyr wythnos i glywed caneuon oddi ar yr Albwm!
Derfel


Tudno FM yn Llanffest!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Fel y clywsoch neithiwr ar rhaglen Catrin mi ddaeth Rhian Mostyn i'r stiwdio i son am Llanffest.
'Rydym yn cynnal Llanffest ar ein fferm, Tyn Llwyfan. Dwi ddim yn gwybod beth yw tarddiad yr enw, ond mae'n un da ar gyfer gig! Rydym yn clirio'r sgubor allan ac yn gwahodd pawb!

Da ni wedi bod yn cael partïon preifat yma ers tro, ond yn 2007 ddaru ni penderfynu eu hagor i fyny i'r cyhoedd er mwyn hel arian i'r rasys cŵn defaid rhyngwladol 2008, sy'n cael ei chynnal yn Abergele. Ac er ein bod wedi blino, 'da ni am wneud o eto eleni, gyda'r pres yn mynd i Dŷ Gobaith, clwb pêl-droed Llanfairfechan a'r carnifal lleol.'
Yn chwarae yn Llanffest fydd:
Bryn Fôn a'r band, Something Personal, Get Out Clause, Emyr Gibson A'r Band, Rhian Mostyn A'r Band, Resus We, DXP, Hogiau'r Bonc a DJ Steffan Cravos. A mi ffydda' ni ar Tudno FM yno yn recordio pigion o'r noson ar eich cyfer wythnos nesaf gyda'r gobaith o gael rhaglen arbennig nos fercher nesaf.
Ond os da chi eishau mynd i glywed y noson yn gyfan mi gewch gysylltu a ni i gael tocynnau ar gyfer y noson. Dim ond £5 yw tocyn ac mae'r campio am ddim.


Nod Hwyr - Mr Phormula yn y ty!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas
Cyn cychwyn son am y newyddion gwych yma am nos Wener dwi'n gwybod fod y teitl yn corni a ella ddim yn cyfieithu ir Gymraeg ond dyna fo.
Ia y newyddion mawr ydi y bydd yr enwog Mr Phormula un o brif leiswyr y Genod Droog (cofiwch ein albwm yr wythnos!) yn cymryd drosodd y slot hwyr ar nos Wener efo'r gorau o hip hop rhyngwladol a rhywbeth arall mae am ei chwarae. Mae yn raglen wych (mae y rhaglen gyntaf wedi'w recordio a dwi wedi ei glywed!) yn llawn o bob math o gerddoriaeth ich cadw chi'n gynes ar nos Wener, os da chi'n ffans o'r Genod Droog mi fyddwch yn saff o fod yn ffans o'r rhaglen.
Felly gwrandewch pob nos Wener rhwng 11 a 12 y hwyr, yn cychwyn nos Wener yma!

Nod dydd Llun wedi'w Electrovampio!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas
Wel dyna oedd rhaglen nos Lun pan gafodd y rhaglen i'w herwgipio (am yr hanner awr cyntaf!) gan tim Drivetime oherwydd fod y genod o Gaerdydd 'Electrovamp' wedi dod i'r stiwdio ar ei ffordd yn ol o wneud sioe yn Rhyl.
Wel dyna ddwy o ferchaid sydd ar ei ffordd i'r top, mi fydda nhw yn 'big thing' a mi glywa'ni lot mwy amdanynt yn enwedig wedi i ffilm newydd Simon Pegg ddod allan a nhwytha efo dwy gan ar y soundtrac. Os da chi eishau mwy o wybodaeth amdanynt ewch i flog Drivetime yma ar TudnoFM.co.uk i glywed mwy am y genod!

Albwm yr wythnos - Ni oedd y Genod Droog!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Wel dyna wythnos o wylia wedi mynd i'r gwynt a dyma fi'n nol ar Tudno FM i son am ein albwm newydd yr wythnos sef Ni oedd y Genod Droog gan y Genod Droog. Dyma chydig o wybodaeth am y band oddiar eu gwefan My Space ( http://www.myspace.com/genoddroog )

Cychwynwyd Genod Droog yn Ysgol Feithrin Bro Tremadog yn 1983 wrth i Kim de Bills a Gethin Evans gyfarfod. Wedi blynyddoedd o fwlio Dylan Roberts yn ysgol Eifionydd, Porthmadog fe gafodd Dyl fod yn ffrindiau gyda'r ddau arall, ar yr amod ei fod o'n rhannu bwyd hefo nhw. Ar ôl gadael ysgol, fe aeth Kim De Bills i ryw goleg yng nghanol nunlle yn yr Alban ac aeth Gethin i Norfolk i astudio Bioleg y Môr. Doedd gwneud rhywbeth ddim yn opsiwn i Dylan ac felly parhaodd i wneud pethau dibwys cerddorol gan gynnwys Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Mehefin y Cyntaf o'i Bencadlys yng Ngarndolbenmaen.

Wrth wneud rhyw fath o gwrs ym Mangor cyfarfu Dylan â'r dyn du, Mr Phormula. Dyma gychwyn ar berthynas gerddorol y ddau. Aethant ati i greu prosiectau fel yr Invisable Ninja Storm, Y Soffas a Pep Le Pew. Fe wnaeth Kim de Bills gyfarfod Mr Phormula wrth i Kim ddangos darn o'i gorff iddo (na fedrwn ei ddatgelu yn yr erthygl hon), ond sefydlodd hynny'r berthynas am byth. Pigodd y Genod Droog Aneirin Karadog i fyny ar y ffordd i gig yng Ngwalchmai, a dangosodd ei gadair i Dylan. Dywedodd Dylan "Ewadd! Am gadair ddel" ac ar y sail hon mae o nawr yn dilyn y band i bobman.

Erbyn hyn mae Gethin, Kim a Mr Phormula yn byw hefo'i gilydd, ac mae Dyl eisiau byw hefo nhw, a gan fod Dyl eisiau, mae Nei hefyd. Caiff cerddoriaeth ei chreu dros y tôst yn y bore ac o flaen rhaglen Trisha gyda'r hwyr.

Bwriad y Genod Droog ydy cael hwyl wrth greu cerddoriaeth fyw o safon uchel. Bydd pob sioe fyw yn brofiad unigryw, gyda phwyslais ar gynnwys y gynulleidfa yn y set. Mae'r band wedi gweld cannoedd o sioeau byw ac yn sylweddoli ei bod hi'n amser cael band yng Nghymru sydd eisiau cael hwyl wrth greu cerddoriaeth wych.

Dywedodd Huw Stephens (un noson feddw nad ydi o'n ei chofio) o Radio 1:

"Meddyliwch am hwiangerddi yn datblygu'n siantau gan godwyr hwyl; y darnau trasig o drac sain Siwperted wedi'u cyfuno gydag eiliadau epig Talcen Caled. Yn y chwyldro hwn lle cawn y pleser o glywed cerddoriaeth electroneg wedi'i thanio gan fand byw, mae'n teimlo fel petai'r grwp wedi'i gywasgu i mewn i fasged bicnic ac yna'n ffrwydro'n fyw ar lwyfan."

Traciau'r CD:
1. Gwn Tatws
2. Bomiwch y Byd
3. Candy Jones
4. Genod Droog Theme
5. Creu Copa Newydd
6. Creu Terfysg
7. Dal Ni Lawr
8. Breuddwyd Oer
9. Llong Pleser
10. Gig Mawr y Gofod
11. Cab y Fran

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau y traciau llyfn hip hoplyd yma yn ystod yr wythnosHwyl am y tro!
Derfel.


Albwm yr wythnos Adlais - Dan Amor

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Wel dyma wythnos arall wedi mynd, ac eto dwi heb gael lot o gyfle i sgwennu ar y blog, ond dyna fo. Bethbynnag ar y rhaglen dydd Sul mi wnes gyflwyno albwm yr wythnos yr wythnos yma sef Adlais gan Dan Amor.
I'r rhai ohonach sydd ddim yn adnabod Dan dyma ychydig amDANo! (sori mi oedd hwna'n uffernol!)

Magwyd Dan Amor ym mhentref Penmachno, Dyffryn Conwy, ac maen dal i fyw yno hyd heddiw. Ymddengys bod cerddoriaeth yn rhedeg yn y teulu; enillodd ei Nain gadair Eisteddfod am ei chanu yn y tridegau. Yn gyn brif ganwr gydar grwp pop/roc Gabrielle 25, bydd gwrandawyr Tudno FM yn gyfarwydd a chaneuon chwerwfelys, melodig Dan fel Yr Aifft yn yr Haul a Cantores yr Haf. Mae hefyd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant fel artist unigol, gydai ddeunydd yn cael ei chwarae yn Siapan, Ewrop ac America. Chwaraeodd John Peel ddwy oi ganeuon, a gwelwyd adolygiad positif oi EP diwethaf yn y cylchgrawn cenedlaethol Record Collector.

Mae Dan wedi rhyddhau 'Adlais', ei ail albwm, ar ei label recordio ei hun 'Recordiau Cae Gwyn'. Mae'n cynnwys pum can Saesneg a phum can Gymraeg. Ceir dylanwad gerddorol cryf o'r 60au a'r 70au ar yr albwm.

Recordiwyd wyth o'r deg trac yn Nyffryn Ogwen gan John Lawrence. Recordiwyd dau drac yn Stiwdio Ofn gyda Gorwel Owen

Mae band byw Dan hefyd yn chwarae ar yr albwm: Euron Jones (acwstig a gitar drydan, gitar pedal ddur ), Dion Huws (drymiau) a Rich Durrell (bas).
Traciau:

Disgyn Mewn I Freuddwyd

Glas Ac Aur

Gwin, Gwlith, Gwawr

Hills

Once In A Lifetime

Waliau

Passage Of Time

Llygredd Golau

Worked It Out

Whitesands Bay

Wel dyna niAlbwm arall wych fel albwm yr wythnos.
Dwi yn mynd i ffwrdd am wythnos wan felly mi welai chi mewn rhyw 5 diwrnod. Cofiwch wrando ar nod pob noson or wythnos rhwng 6 a 8 (9 ar nos Fawrth!)
Ta ta tan toc!
Derfel.


...

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Wel dyma fi, Catrin Griffiths yn sgwennu fy mlog cynta!! Shwmai?!!!

Wel, os ydach chi wedi bod yn grando ar Nôd ar Tudno FM, mi fyddwch chi'n gwbod mod i yn darlledu ar nos Fawrth o 7 tan 9 ac hefyd ar nos Iau o 7 tan 8. Dwn im be dachi'n feddwl o'r rhaglenni hyd yn hyn ond dwi yn trio ngorau glas - gaddo!!

Yn yr wythnosau nesa dwi'n goebithio y bydd 'na fwy o siap a steil i'r rhaglenni gan y byddai yn sgwrsio hefo boi o Benmaenmawr yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw ym Mrwsel, hefo'r Celtic Warrior ac heno rydwi'n siarad hefo Elin Ifan o'r gymdeithas Spina Bifida a Hydrocephalus sydd am drafod mwy am yr anabledd ac sut mae hyn yn effeithio'r bobol gan ganolbwyntio rhywfaint ar yr ardal. Felly digon i gario ni mlaen tan o leia mis Medi o leia!!!

Os ydach chi'n nabod rhywun sydd ag awydd siarad ar y radio, hefo stori ddifyr neu os ydach chi jest isio cal deud eich deud, cysylltwch â mi ar catrin.griffiths@tudnofm.co.uk!!!


Albwm yr wythnos - Idiom gan Dyfrig Evans

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Dyma chydig o wybodaeth am ein albwm yr wythnos yr wythnos yma sef Idiom gan Dyfrig Evans. Dyma mae y cwmni recordio rasal yn ddweud am yr albwm 'Idiom’ yw’r prosiect solo gyntaf gan y cerddor amryddawn Dyfrig Evans - cyn brif-leisydd y grwp ‘Topper'. Mae 5 trac Cymraeg a 5 trac Saesneg gwych yma gan yr hogyn sy’n enedigol o Benygroes, Caernarfon, sydd nid yn unig wedi ysgrifennu’r geiriau a chyfansoddi'r gerddoriaeth, ond ef sy'n chwarae bron pob offeryn ar yr albwm! Arddull pop/roc ysgafn sydd i’r albwm yma. A chafodd ysbrydoliaeth i ysgrifennu’r gerddoriaeth amrywiol hyn o’i brofiadau personol o fewn y tair blynedd diwethaf.

Traciau'r CD:
1. Gwas y Diafol
2. Gave you everything
3. Werth y byd
4. If you changed your mind
5. Cyllell yn dy gefn
6. Mwya'r brys
7. Impossible
8. So Sorry
9. Byw i'r funud
10. Catch 22

Beth 'da chi'n feddwl o'r albwm? Oes ganddoch chi syniadau ar gyfer albwm yr wythnos? Gadewch i ni wybod!


Helo ers tro!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas
Helo sut da chi ers tro?
Mae hi di bod yn benwythnos reit brysur ac felly dwi ddim wedi cael llawer o gyfle i sgwennu ar y blog felly dyma fi'n llenwi am y penwythnos a heno sef rhaglen fi a Alistair. Wel mi gawson raglen arbennig nos wener sef Nod hwyr efo'r gorau o hiphop a dawns cymraeg yna wedyn mi gawsom Nod ar y sul lle gawsom dipyn o 'chill' efo caneuon i chi gael ymlacio iddynt a wedyn da ni nol eto ar nos Lun! Cofiwch wrando ar gweddill rhagleni Nod dros yr wythnos nesaf!
Ta ta tan toc!
Derfel.

Sosej, Bins a Chips!!!!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas
Helo pawb,
Wel dwi chydig yn hwyr yn sgwennu y blog ar gyfer dydd Llun ond dyna fo!
Mi o ni ar ben fy hun bach yn y stiwdio heno gan fod Aliatair lawr yn y de ond mi gawson rhyw air bach efo fo tua 7.10 (pan wnaeth y gremlins bach adael i mi wneud!!) Mae o yn brysur yn mynd o gwmpas gorsafoedd radio eraill (oes cofiwch, mae rhai eraill.)yn son am ei albwm ddiweddara 'Croeso Nol'. Wel 'heileit' fy noson i oedd chwarae can dwi heb ei glywed ers o ni'n Glan Llyn flynyddoedd maith yn ol sef 'Sosej, Bins a Chips' oddi ar y CD newydd Goreuon Jim O'Rourke. Mai'n gan dwi wedi bod yn chwilio amdani ers blynyddoedd a or diwedd dwi weiw chael!!! Dyna ydi fy nghof i o ddisgos Glan Llyn hon a 'Ysbryd y nos' ar y diwedd!
Wel dyna ddigon o fwydro gen i am heno mi fyddai nol ar nod hwyr nos wener rhwng 11 a 12.
Ta ta tan toc!
Derfel

Follow Us On

  • Tudno FM
  • Tudno FM
  • Tudno FM
  • Tudno FM
  • Tudno FM

Poll

busyLoading Poll...

Site Login