Albwm yr wythnos - Ni oedd y Genod Droog!

Posted by: Derfel Thomas in MyBlog

Tagged in: Nod

Derfel Thomas

Wel dyna wythnos o wylia wedi mynd i'r gwynt a dyma fi'n nol ar Tudno FM i son am ein albwm newydd yr wythnos sef Ni oedd y Genod Droog gan y Genod Droog. Dyma chydig o wybodaeth am y band oddiar eu gwefan My Space ( http://www.myspace.com/genoddroog )

Cychwynwyd Genod Droog yn Ysgol Feithrin Bro Tremadog yn 1983 wrth i Kim de Bills a Gethin Evans gyfarfod. Wedi blynyddoedd o fwlio Dylan Roberts yn ysgol Eifionydd, Porthmadog fe gafodd Dyl fod yn ffrindiau gyda'r ddau arall, ar yr amod ei fod o'n rhannu bwyd hefo nhw. Ar ôl gadael ysgol, fe aeth Kim De Bills i ryw goleg yng nghanol nunlle yn yr Alban ac aeth Gethin i Norfolk i astudio Bioleg y Môr. Doedd gwneud rhywbeth ddim yn opsiwn i Dylan ac felly parhaodd i wneud pethau dibwys cerddorol gan gynnwys Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Mehefin y Cyntaf o'i Bencadlys yng Ngarndolbenmaen.

Wrth wneud rhyw fath o gwrs ym Mangor cyfarfu Dylan â'r dyn du, Mr Phormula. Dyma gychwyn ar berthynas gerddorol y ddau. Aethant ati i greu prosiectau fel yr Invisable Ninja Storm, Y Soffas a Pep Le Pew. Fe wnaeth Kim de Bills gyfarfod Mr Phormula wrth i Kim ddangos darn o'i gorff iddo (na fedrwn ei ddatgelu yn yr erthygl hon), ond sefydlodd hynny'r berthynas am byth. Pigodd y Genod Droog Aneirin Karadog i fyny ar y ffordd i gig yng Ngwalchmai, a dangosodd ei gadair i Dylan. Dywedodd Dylan "Ewadd! Am gadair ddel" ac ar y sail hon mae o nawr yn dilyn y band i bobman.

Erbyn hyn mae Gethin, Kim a Mr Phormula yn byw hefo'i gilydd, ac mae Dyl eisiau byw hefo nhw, a gan fod Dyl eisiau, mae Nei hefyd. Caiff cerddoriaeth ei chreu dros y tôst yn y bore ac o flaen rhaglen Trisha gyda'r hwyr.

Bwriad y Genod Droog ydy cael hwyl wrth greu cerddoriaeth fyw o safon uchel. Bydd pob sioe fyw yn brofiad unigryw, gyda phwyslais ar gynnwys y gynulleidfa yn y set. Mae'r band wedi gweld cannoedd o sioeau byw ac yn sylweddoli ei bod hi'n amser cael band yng Nghymru sydd eisiau cael hwyl wrth greu cerddoriaeth wych.

Dywedodd Huw Stephens (un noson feddw nad ydi o'n ei chofio) o Radio 1:

"Meddyliwch am hwiangerddi yn datblygu'n siantau gan godwyr hwyl; y darnau trasig o drac sain Siwperted wedi'u cyfuno gydag eiliadau epig Talcen Caled. Yn y chwyldro hwn lle cawn y pleser o glywed cerddoriaeth electroneg wedi'i thanio gan fand byw, mae'n teimlo fel petai'r grwp wedi'i gywasgu i mewn i fasged bicnic ac yna'n ffrwydro'n fyw ar lwyfan."

Traciau'r CD:
1. Gwn Tatws
2. Bomiwch y Byd
3. Candy Jones
4. Genod Droog Theme
5. Creu Copa Newydd
6. Creu Terfysg
7. Dal Ni Lawr
8. Breuddwyd Oer
9. Llong Pleser
10. Gig Mawr y Gofod
11. Cab y Fran

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau y traciau llyfn hip hoplyd yma yn ystod yr wythnosHwyl am y tro!
Derfel.